
Croeso i Bar a Siop Poteli Tŷ Seidr
Dros 100 o gemau bwrdd
Yfed i fewn neu i fynd
Siop Poteli
Bar seidr annibynnol yng nghanol Aberystwyth ydym ni, sy’n ymfalchïo yn ein hangerdd am seidr, cwrw crefft a hwyl gemau bwrdd. Gyda dros 100 math o seidr, cwrw crefft, a gemau bwrdd i ddewis ohonynt, rydym yn cynnig profiad unigryw a chyffrous i’n cwsmeriaid.
P’un a ydych chi’n arbenigwr seidr, yn frwd dros gwrw crefft neu'n chwaraewr gemau profiadol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yn ein bar. Dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu i brofi seidr blasus, cwrw crefft a gêm fwrdd o’ch dewis, ac ymgolli mewn noson o hwyl a chwerthin ym mar a siop boteli Tŷ Seidr. Mae croeso cynnes yn eich disgwyl!
TŶ SEiDR YW BAR SEiDR GORAU CYMRU 2026!
Rydym yn falch o rannu bod Tŷ Seidr wedi cael ei enwi'n Pencampwr Bar Seidr Cymru 2026 gan CAMRA.
Diolch i'n cwsmeriaid, ein tîm a'n cymuned sy'n dwlu ar seidr am y cefnogaeth.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael i cynnal ddydd Sadwrn 22 Awst am 7pm. Croeso cynnes i bawb!

L-R: Ceredigion CAMRA Chairman John Gale, Tŷ Seidr owner Ffion Roberts, and West Wales Area Organiser Steve Brady.

TŶ SEiDR TROPiCAL
Rydym wedi bod yn gartref i seidr crefft yn Aberystwyth am dros 10 mlynedd, ac rydym bellach wedi rhoi ei'n arbenigedd mewn i wneud seidr.
Melys a bywiog gyda nodiadau beiddgar o afal, ffrwyth y gardd, mango a phîn-afal am flas gwirioneddol o'r trofannau.
Wedi'i ddatblygu'n gyfan gwbl gan dîm Tŷ Seidr mewn cydweithrediad ag un o gynhyrchwyr seidr gorau Gwlad yr Haf.
Gall cwsmeriaid masnach archebu drwy Eebria Trade drwy glicio ar y ddolen isod.

.png)
ORiAU AGOR
Dydd Llun: 6pm - 10pm
Dydd Mawrth: 6pm - 10pm
Dydd Mercher: 6pm - 10pm
Dydd Iau: 6pm - 10pm
Dydd Gwener: 4pm - 11pm
Dydd Sadwrn: 2pm – 11pm
Dydd Sul: Ar gau
*Ar gau bob dydd Llun gŵyl y banc.

Bar a Siop Poteli
TŶ SEiDR
16 Stryd Y Gorfforaeth
Aberystwyth, Ceredigion
SY23 2BT
Ffôn
01970 615662